There is no doubt that Llangollen is a heaven for shoppers. Charming Welsh shops selling traditional gifts and souvenirs are dotted everywhere around the town.
For a taste of Wales, showcasing Welsh producers and brewers, you will need to step inside Porter’s Deli and the Llangollen Oggie & Fine Foods Shop. After sampling their culinary delights, a glass of wine at Gales of Llangollen Wine Bar can be the perfect way to spend your afternoon.
Porter’s Delicatessen
When in Llangollen, Porter’s Deli is the shop that you need to visit, if you want to take the pulse of what Wales means today.
Here you will find local produce made by local people following family recipes, and using ingredients that are grown, reared or blended on their farms.
This doesn’t mean that we are only talking about preserves, chutneys, honey, cheese or patés. We are also referring to Welsh gin, mead, sloe gin, and beer. You will be fascinated by the variety of drinks that are on offer, including freshly roasted coffee and locally blended teas.
Here are a few examples of what you can find in the shop:
Patchwork Patés – established in 1982 by Margaret Carter, everything is still made in small batches, following Margaret’s original recipes. You can see their products here.
Aballu Artisan Chocolatier – the award winning chocolatier offers handcrafted truffles, chocolate bars, chocolate pizzas and a number of quirky gift ideas. Jo Edwards’ recent project is to produce a range of chocolate featuring paintings by her grandmother who discovered her artistic talent when she was living with dementia. Aballu made the headlines in the newspapers with this initiative. Read more about Jo’s story here.
Sabor de Amor – as seen on BBC 2’s Top of the Shop! Sabor de Amor was one of the finalists of this successful TV program. Beatriz offers authentic Spanish sauces and preserves, such as the Paella sauce made famous on the TV show, as well as other products including aioli and sofrito. Meet Beatriz here.
The Bridge Lodge – their products are based on the wild foods that they forage from the woodland nestled along the banks of the River Dee. They also run supper clubs across the region featuring wild edible plants. Have a look on their website here.
Llangollen Brewery – look for Llangollen Bitter and the Welsh Black, these beers are locally brewed in Llangollen. It can’t get any more local than this. Read their story here.
Keep an eye on our social media for updates on products as they arrive on local shelves.
Llangollen Oggie & Fine Foods Shop
Impossible to miss, this shop is located next to the Tourist Information Centre in Llangollen and lures tourists with its fantastic shop window: the prettiest, most delicious Welsh oggies and pastries we have ever seen. There are also plentiful vegetarian and vegan options.
Once in the shop, you will discover a world of locally brewed beers and Welsh gins, including the latest addition: Pembrokeshire Pink, named after Pink Thrift, the flower of Pembrokeshire. Who says that we are not trendy in Llangollen?
In terms of beer, look for: Purple Moose Brewery from Snowdonia, Field Forever – Strawberry and Vanilla IPA, the Sunlander Ale from Stonehouse Brewery in Oswestry, or buy Horny Goat Ale from Trefforest Brewery.
The shop also sells their own branded cheese: Dragons Slate Cavern Aged Cheddar, matured in the slate caverns in Snowdonia.
If you still have room, after the oggies, beers and gins, try a locally blended and hand roasted coffee from Zealots, the new coffee brand sold only in this shop.
Aballu truffles and chocolates are also available.
Keep an eye on our social media for updates on products as they arrive on local shelves.
Gales of Llangollen Wine Shop
Linked to the wine bar and hotel, the wine shop comes as part of a wider offer by Gales of Llangollen. There is a cosy, cellar-like ambience in the shop, with slate floor and an impressive inglenook fireplace.
The wines are collected from all over the world, some ranges being shipped by the shop itself. There are also choices of other drinks ranging from classic single malts and cognacs to boutique gins and tequilas.
If you are looking for an extra-special gift for a wine connoisseur, Gales of Llangollen is the place to shop. In addition to their impressive range of liquid gifts, they stock wine paraphernalia, exclusive glassware and kitchen gadgets and wine-related games.
You can also shop online from the these local producers, click here.
Featured photo of Llangollen credit to Go North Wales.
Siopau Llangollen
Mae Llangollen yn le delfrydol i’r rheiny ohonoch sy’n hoff o siopa. Mae sawl Siop Gymreig arbennig yn gwerthu anrhegion a chofroddion traddodiadol yn y dref.
Er mwyn blasu cynnyrch Cymru, a bwrw golwg ar nwyddau gan gynhyrchwyr a bragwyr Cymru, ewch i Deli Porter’s a Siop Oggies a Bwyd Arbennig Llangollen (Llangollen Oggie & Fine Foods Shop). Unwaith ichi flasu eu cynnyrch arbennig, beth am dreulio eich prynhawn yn mwynhau gwydraid o win ym Mar Gwin Gales Llangollen.
Delicatessen Porter’s
Cofiwch ymweld â Deli Porter’s os ewch chi i Langollen lle bydd cyfle ichi gael blas ar Gymru heddiw.
Yma fe welwch chi gynnyrch lleol gan drigolion lleol sy’n defnyddio ryseitiau teuluol ac yn manteisio ar gynnyrch wedi ei dyfu, ei fagu neu ei gymysgu ar eu ffermydd. Ond dydy’r cynnyrch heb ei gyfyngu i gyffeithiau, mwtrin, mêl, caws neu pate yn unig. Mae’r deli hefyd yn gwerthu jin, medd, jin eirin a chwrw Cymreig. Fe gewch chi’ch syfrdannu gyda’r dewis o ddiodydd gan gynnwys coffi wedi ei rostio’n ffres a the wedi ei gymysgu’n lleol.
Dyma ychydig o enghreifftiau o’r cynnyrch yn y siop:
Patés Patchwork – cafodd y cwmni ei sefydlu ym 1982 gan Margaret Carter a chaiff popeth ei wneud mewn sypiau bach gyda llaw hyd heddiw, gan barhau i ddefnyddio ryseitiau gwreiddiol Margaret.
Aballu Artisan Chocolatier – mae’r gwneuthurwr siocled blaenllaw yn cynnig peli siocled wedi eu gwneud â llaw, bariau siocled, pizzas siocled a nifer o anrhegion difyr a gwahanol. Fel rhan o’i phrosiect diweddar , bu i Jo Edwards gynhyrchu dewis o siocled yn ymwneud â pheintiadau ei Nain wnaeth ddarganfod ei dawn artistig pan roedd yn byw gyda gorffwylltra. Bu i Aballu ymddangos ym mhenawdau’r newyddion oherwydd y fenter hon.
Sabor de Amor – wedi ei ddangos ar ‘Top of the Shop’ BBC 2! Roedd Sabor de Amor yn un o’r cystadleuwyr terfynol ar y rhaglen deledu lwyddiannus hon. Mae Beatriz yn cynnig sawsiau a chyffeithiau Sbaeneg go iawn, fel y saws Paella ddaeth yn enwog yn sgil y rhaglen deledu, ynghyd â chynnyrch eraill fel aioli a sofrito.
The Bridge Lodge – mae eu cynnyrch yn ymwneud â’r bwydydd gwyllt maen nhw’n eu fforio o’r coetir ger glannau Afon Dyfrdwy. Maen nhw hefyd yn cynnal clybiau swper ar draws y rhanbarth gan gynnig planhigion gwyllt bwytadwy.
Bragdy Llangollen – ceisiwch ddod o hyd i gwrw chwerw Llangollen Bitter a’r Welsh Black, oherwydd caiff y cwrwau hyn eu bragu’n lleol yn Llangollen. Gewch chi ddim byd mwy lleol na hynny.
Cadwch lygaid ar ein cyfryngau cymdeithasol er mwyn derbyn y diweddaraf am y cynnyrch wrth iddyn nhw gyrraedd silffoedd y siopa lleol…
Siop Oggies a Bwyd Arbennig Llangollen
Siop hawdd i ddod o hyd iddi, mae hi’r drws nesaf i’r Ganolfan Groeso yn Llangollen ac mae hi’n denu twristiaid gyda’i ffenest anhygoel : yn llawn y pasteiod Cymreig (oggies) mwyaf blasus a deniadol erioed. Mae hefyd llu o ddewisiadau fegan a llysieuol.
Camwch i mewn i’r siop ac fe welwch chi ddewis eang o gwrw wedi ei fragu’n lleol a jin Cymreig, yn ogystal â’r jin diweddaraf : Pembrokeshire Pink, wedi ei enwi ar ôl y Glustog Fair Binc, blodyn Sir Benfro. Pwy sy’n honni nad ydym ni gyda’r oes yn Llangollen?
O ran cwrw, ewch i chwilio am: Bragdy’r Mŵs Piws o Eryri, Field Forever – IPA Mefus a Fanila gan Tiny Rebel, Cwrw’r Sunlander gan Fragdy Stonehouse yng Nghroesoswallt (sydd hefyd yn cynhyrchu eu jin poblogaidd eu hunain), neu Gwrw’r Afr Serchog o Fragdy Trefforest.
Mae’r siop hefyd yn gwerthu eu caws eu hunain : Caws Cheddar Aeddfed o Geudwll Llechen y Ddraig, wedi ei aeddfedu yn y ceudyllau llechi yn Eryri.
Os oes gennych chi dal le ar ôl wedi ichi fwynhau’r pasteiod, cwrw a jin, beth am flasu coffi wedi ei rhostio â llaw o Zealots, y coffi newydd sydd ar werth yn y siop hon yn unig o fis Tachwedd 2018 ymlaen.
Mae peli siocled (truffles) a siocled eraill Aballu ar gael hefyd.
Cadwch lygaid ar ein cyfryngau cymdeithasol ichi weld pryd fydd cynnyrch newydd yn cyrraedd ein siop.
Siop Win Gales of Llangollen
Mae’r siop win yn gysylltiedig â’r bar gwin a’r gwesty ac mae’n rhan o fenter ehangach gan Gales of Llangollen. Mae awyrgylch clyd a chysurus fel seler win yn y siop, gyda llawr llechi a lle tân cil pentan arbennig.
Caiff y gwinoedd eu casglu o bob cwr o’r byd gyda rhai gwinoedd yn cael eu danfon gan y siop ei hun. Mae hefyd dewis o ddiodydd eraill fel wisgi brag sengl clasurol a choniacs i jin bwtîc a tequila.
Os ydych chi’n chwilio am anrheg arbennig i arbenigwr gwin, mae Gales of Llangollen yn siop ddelfrydol ichi ymweld â hi. Yn ogystal â’u hanrhegion anhygoel ar ffurf hylif, maen nhw’n gwerthu nwyddau a gemau yn ymwneud â gwin, gwydrau a theclynnau gegin arbennig.