How to reduce waste, support local businesses and have your tastiest ever Christmas!

How to reduce waste, support local businesses and have your tastiest ever Christmas!

If everyone lived the way that we do in Wales, we would need nearly three planets to provide the resources needed. This Christmas North East Wales food and drink producers want to do their bit to reduce the impact we all have. And at the same time bring you the tastiest local food you can eat.

Leading the way is Marina from Marina’s Italian Cookery (pictured), Cyffylliog, near Ruthin. She launched her ‘Lasagne in a pot’ last month and it’s been an immediate hit with customers. ‘It’s a locally crafted clay pot you can return, again and again, to be re-filled.’ Not only is the packaging completely reusable, but it’s made to a very tasty authentic recipe here in North Wales. Marina also aims to grow as many of her own ingredients as possible on her small farm to ensure her cooking contains only the finest ingredients with minimal food miles. They already grow their own Damsons in their orchard for their ‘Biscotti al cocco’.

Wales leads in recycling, but we can do more by buying local

Wales has been recognised as one of the world’s leading recyclers, but there’s still plenty of work to be done. Local food and drink producers businesses are playing their part:

We’re doing more recycling than ever – we’ve got a lot of different bins out the back. This isn’t sadly isn’t the norm in hospitality businesses. So much still goes into general waste, including glass.’ Pip Gale, Gales Wine Bar, Llangollen

‘I’m on a journey to make all of my packaging biodegradable and compostable – that’s what people want’. Rachel’s Vegan Cakes, Bwlchgwyn

It’s not just about recycling, but also creating less waste in the first place and by buying local the miles your food travels to reach your plate is greatly reduced:

This Christmas we’re not giving people crackers with their meals. Instead, we’re giving everyone a ‘Seed bomb’ and sharing our reason why – we’d prefer to spread wild-flowers seeds, rather than generate more un-necessary waste this Christmas.’ The Three Eagles – Llangollen

We’re quite restricted by the packaging we use, but buying your sausages from us can dramatically reduce your air miles this Christmas. Lots of supermarket sausages contain meat from places like Spain and Romania, whereas mine is all local.’ Mike, Pen-y-Lan Pork, Wrexham

We use everything, even the bi-products from the preserve making process. We use no single-use plastic in our packing.’ Goch + Company, Wrexham

We’re doing loads to reduce our waste. We use glass bottled milk to cut down on plastic. Our coffee grounds are used by local horticulturalists And we avoid everything single-use. The few single-use items we use like takeaway cups and lids are compostable.’ Craig, Riverbanc, Llangollen

Where to buy local this Christmas

Want to reduce your waste and source tasty local food this Christmas?

Two local food groups have come together to make it easy for you to taste and buy the amazing range of local produce we have on our doorstep this Christmas. The Clwydian Range Food & Drink group and the Llangollen & Dee Valley Good Grub Club have organised Light Up Local Food pop-up Christmas markets across the region. Each market will have its own unique flavour but you can expect a tasty combination of locally produced food & drink stalls complemented by seasonal music, carol singing, Santa appearances, Christmas parades, craft stalls and much more…

Get inspired at these Light Up Local Food markets across North East Wales:

    • Mold Christmas Lights On Tuesday 26th November (3pm – 7pm)
    • Denbigh Christmas Market – Friday 29th November (12-8pm)
    • Llangollen Christmas Festival – Saturday 30th November (1pm-5pm)
    • Ruthin Christmas Market – Saturday 30th November (10-4pm)

To find out more visit: www.goodgrubclub.wales/Christmas or find us on Facebook and Twitter https://www.facebook.com/LlanGoodGrub/

Find out more about Marina’s Italian Cookery here: https://www.facebook.com/Marinasitaliancookery/

Dyma sut mae gwastraffu llai, cefnogi busnesau lleol a chael y Nadolig mwyaf blasus erioed!

Pe bai pawb yn byw fel yr ydym yng Nghymru, byddai angen bron i dair planed arnom i ddarparu’r adnoddau rydym eu hangen. Y Nadolig hwn, mae cynhyrchwyr bwyd Gogledd Ddwyrain Cymru am wneud eu rhan i leihau’r impact mae pob un ohonom yn ei gael. A dod a’r bwyd lleol mwyaf blasus fedrwch chi ei fwyta i chi ar yr un pryd.

Ar flaen y gad mae Marina o Marina’s Italian Cookery (yn y llun), o Gyffylliog ger Rhuthun.

Fe lansiodd ei ‘Lasagne mewn pot’ y mis diwethaf a daeth yn boblogaidd ar unwaith gyda chwsmeriaid. ‘Mae’r potyn clai wedi’i wneud yn lleol, a gallwch ddod a fo’n ôl lawer gwaith i’w ail-lenwi.’ Nid yn unig y gellir ailddefnyddio’r pecynnu yn llwyr, ond mae hefyd wedi’i wneud o rysáit wreiddiol a blasus iawn yma yng Ngogledd Cymru. Bwriad Marina hefyd yw tyfu cymaint o’i chynhwysion ei hun â phosib ar ei fferm fach, i sicrhau mai’r cynhwysion gorau’n unig, efo’r milltiroedd bwyd lleiaf posibl, fydd hi’n eu defnyddio i goginio. Maent eisoes yn tyfu eirin damson eu hunain yn y berllan ar gyfer eu ‘Biscotti al cocco’.

Mae Cymru yn arwain ym maes ailgylchu, ond gallwn wneud mwy trwy brynu’n lleol

Mae Cymru wedi cael ei chydnabod fel un o ailgylchwyr mwyaf blaenllaw’r byd, ond mae digon o waith i’w wneud o hyd. Mae busnesau cynhyrchwyr bwyd a diod lleol yn gwneud eu rhan:

‘Rydym ni’n ailgylchu mwy nag erioed – mae gennym ni lawer o wahanol finiau yn y cefn. Ond yn anffodus dydi hyn ddim yn arferol ym maes busnesau lletygarwch. Mae cymaint o bethau’n dal i fynd i’r biniau gwastraff cyffredinol, gan gynnwys gwydr.’ Pip Gale, Gales Wine Bar, Llangollen

‘Fy ngorchwyl i yw gwneud fy holl ddeunydd pacio yn bydradwy ac yn gompostiadwy – dyna be mae pobol ei eisiau’. Rachel’s Vegan Cakes, Bwlchgwyn

Nid mater o ailgylchu’n unig ydi hyn, ond hefyd creu llai o wastraff yn y lle cyntaf, a thrwy brynu’n lleol mae’r milltiroedd y mae eich bwyd yn teithio i gyrraedd eich plât yn cael ei leihau’n fawr:

‘Nid cracyrs fyddwn ni’n eu rhoi i bobl gyda’u pryd bwyd y Nadolig eleni. Rydym yn rhoi ‘bom hadau’ i bawb yn eu lle, ac yn egluro pam – byddai’n well gennym daenu hadau blodau gwyllt, yn hytrach na chynhyrchu mwy o wastraff diangen y Nadolig hwn.’  Y Three Eagles – Llangollen

‘Rydyn ni wedi ein cyfyngu braidd gan y pecynnu rydyn ni’n ei ddefnyddio, ond gall prynu’ch selsig gennym ni leihau eich milltiroedd awyr yn ddramatig y Nadolig hwn. Mae llawer o selsig mewn archfarchnadoedd yn cynnwys cig o lefydd fel Sbaen a Rwmania, ond mae fy nghig i i gyd yn lleol.’ Mike, Pen-y-Lan Pork, Wrecsam.

‘Rydym yn defnyddio popeth, hyd yn oed y bi-gynhyrchion o’r broses gwneud jam a chyffaith. Nid ydym yn defnyddio unrhyw blastig untro i bacio.’ Goch + Company, Wrecsam

 ‘Rydym ni’n brysur iawn yn lleihau’n gwastraff. Rydym yn defnyddio llaeth o boteli gwydr i leihau’n defnydd o blastig. Mae garddwyr lleol yn defnyddio ein gwaddodion coffi. Ac rydym yn osgoi popeth sydd â defnydd sengl. Mae’r ychydig eitemau untro a ddefnyddiwn fel cwpanau a chaeadau tecawê yn gompostiadwy ’. Craig, Riverbanc, Llangollen

Ble fedrwch chi brynu cynnyrch lleol y Nadolig hwn?

‘Da chi am leihau eich gwastraff a dod o hyd i fwyd lleol blasus y Nadolig hwn?

Mae dau grŵp bwyd lleol wedi dod at ei gilydd i’w gwneud hi’n hawdd i chi flasu a phrynu’r ystod anhygoel o gynnyrch lleol sydd gennym ar garreg ein drws y Nadolig hwn. Mae grŵp Bwyd a Diod Bryniau Clwyd a’r Good Grub Club o Langollen a Dyffryn Dyfrdwy wedi trefnu marchnadoedd dros dro – ‘Light Up Local Food’ – ledled y rhanbarth.

Bydd gan bob marchnad ei blas unigryw ei hun ond gallwch ddisgwyl cyfuniad blasus o stondinau bwyd a diod a gynhyrchir yn lleol ynghyd â cherddoriaeth dymhorol, canu carolau, ymddangosiadau Siôn Corn, gorymdeithiau Nadolig, stondinau crefft a llawer mwy …

Gadewch i’r marchnadoedd ‘Light Up Local Food’ yma ledled Gogledd Ddwyrain Cymru eich hysbrydoli:

    • Yr Wyddgrug – Noson y Goleuadau Nadolig, dydd Mawrth 26 Tachwedd (3yh – 7yh)
    • Dinbych – Marchnad Nadolig – dydd Gwener 29 Tachwedd (12-8yh)
    • Llangollen – Gŵyl Nadolig – dydd Sadwrn 30 Tachwedd (1yh-5yh)
    • Rhuthun – Marchnad Nadolig – dydd Sadwrn 30 Tachwedd (10-4yh)

 

Os am fwy o wybodaeth, ewch i: www.goodgrubclub.wales/Christmas neu chwiliwch amdanom ar Facebook a Twitter https://www.facebook.com/LlanGoodGrub/

Mwy o wybodaeth am Marina’s Italian Cookery yma: https://www.facebook.com/Marinasitaliancookery/