Llangollen Food Festival 13-14 October 2018

Llangollen Food Festival 13-14 October 2018
The Llangollen Food and Drink Festival takes place at The Royal International Pavilion in Llangollen on the 13th and 14th October 2018, from 10am to 5pm on both days. Expect great food and drink, fantastic local producers, live cookery classes and workshops, and a program full of entertaining activities.

Situated in beautiful North-East Wales, The Llangollen Food and Drink Festival is a wonderful family day out with plenty of activities for everyone to enjoy. Now in its 21st year, it is renowned for being a fun and memorable event. 

Established in 1997, it has become one of the most successful food festivals in Wales. In the beginning, the Llangollen festival showcased traditional food producers from North Wales, and building on this success, producers are now also attracted from much further afield. 

The festival grew from one room in the Llangollen Royal International Pavilion, to occupying the whole building. There is a celebration of diversity, with food and drinks traditional to or inspired by other countries, that give the festival an international feel. 

At its 20th anniversary, the Llangollen Food and Drink Festival was named as one of the Top 10 food festivals in the UK by the Daily Telegraph and Independent newspapers. 

Cookery Masterclasses

This crowd-pulling cookery masterclasses are led by Graham Tinsley MBE, who has prepared dishes for the Queen and Prince Charles on at least a dozen occasions, and also created St David’s Day feasts at 10 Downing Street. Graham also heads up the North Wales Culinary Guild.

His demonstrations are not to be missed, as his focus is on locally sourced, quality ingredients such as meat, ice cream, rape seed oil, honey and beer, all coming from local producers who are regular exhibitors at the festival. Check the festival program for the cookery demonstrations timetable (link)

Bryan Webb from Tyddyn Llan is one of Wales’ few Michelin starred chefs, cooking with Welsh produce in his classic French inspired cuisine. Jack Hatley – from Gales of Llangollen is one of the local stars, showcasing local produce prepared with modern techniques. 

Stephen Griffith & Sam Elliott from Harlech Foods, who create new and interesting ideas for chefs all over Wales, are demonstrating their famous beef dish. Dai Chef, a regular of the festival will be poaching fish in Rosies cider, or cooking Abbey farm beef in flatbreads, promoting clean eating.

Arron Tye won Junior Chef of Wales 2018 at the Welsh International Culinary Championships and he will be at the festival joining Graham Tinsley on the masterclasses board. Gareth Dwyer is also part of the fantastic line-up of chefs in 2018. 

Hands-on Sessions

These hands-on sessions are the perfect way to learn a specific skill. It can be knife skills, bread or sausage making, or just learning about wines. These dig-a-little-deeper sessions are designed around in-depth knowledge of  specific culinary skills, and there is nothing better than learning through trying the skill for yourself. The knife skills are the basics of any kitchens, starting from how to hold a knife, to chopping and dicing. Sausage making will dispel your fears related to making the fillings, using the natural casings, and forming the sausage links. Bread making sessions are a work of love, where you can learn about kneading, resting and proofing. 

The hands-on sessions are a fun and interactive way of experimenting with new skills. All the chefs are friendly, and they will share the tips and tricks of the trade with you.

Check the festival’s website here to see when these workshops take place.

Musical line up

It can’t be a good food and drink festival in Llangollen without live music. There will be sessions from Tom Wilson, Captain Zed, the Grasshoppers, the Glasswalkers, Chris Sims, Jamie Thomas, Charlie Jones Jazz Band, and the Llangollen Silver Band.

There is nothing better than to listen to great music while enjoying good food, and holding a glass of your favourite drink in your hand. Please feel free to cheer, clap, sing along and dance as if nobody can see you. The festival is for having fun.

Exhibitors

Expect plenty of exceptional food and drink, but also gifts, home decoration and jewellery. Over 100 different exhibitors offer everything from organic meat to fruit liqueurs, Welsh cheeses, bread, chocolate, fish, Biltong, halloumi fries, tornado potatoes, ice cream, tacos, nachos, hog roasts, and pies – to name only a few of the fusion street foods that you will be able to find here. In terms of drinks, you will find everything from locally crafted beer, gin, meads and liqueurs to worldwide wines. There will also be leaf teas, hand blended in Snowdonia. 

There will be locally made ice-creams, fudge, chocolates, Italian cakes and desserts to eat on the spot or take home. To mention only a few of the exhibitors:

Aballu Artisan Chocolatier you can find their stall with delicious chocolates at number H26

Pen-y-lan, buy their homemade pork sausages from their stall at A51

Patchwork Paté fantastic homemade patés at H11

Authentic Thai food that makes you happy at S8

Llangollen Brewery locally brewed beers at M1

Llanvalley Natural Products fantastic natural skincare and household products made with goatsmilk, honey & beeswax at H1

Rachels Vegan Cakes, absolutely amazing vegan cakes at B6

Sabor de Amor the finalist on the BBC2’s ‘Top of the Shop’ will be at her stand at H31

In terms of cosmetics and jewellery, you can find beautifully crafted sea glass jewellery, elegant silver spoon rings, and naturally derived skincare products. 

More producers will be added to the website in the run-up to the event. If you are looking for a producer in particular, or a type of food, please check the list of exhibitors on the festival’s website page here (link)

You can also check the festival Facebook page for latest updates (link)

Good to know

The Llangollen Food and Drink Festival starts at 10am and finishes at 5pm on both 13th-14th October. There will be parking on site at the International Pavilion or nearby car parks. 

Tickets are £5 per person.

Most importantly, have fun at the Llangollen Food and Drink Festival, and mark the dates for next year, 19th & 20th October. Follow the festival on the social media accounts for news and offers, and check the website for details. 

 

_____________________________________________

Gŵyl Fwyd Llangollen 13-14 Hydref 2018

Caiff Gŵyl Bwyd a Diod Llangollen ei chynnal ym Mhafiliwn Brenhinol Rhyngwladol Llangollen ar y 13eg a’r 14eg o Hydref 2018, o 10yb tan 5yh ar y ddau ddiwrnod. Yno, gallwch ddisgwyl bwyd a diod gwych, cynhyrchwyr lleol arbennig, gweithdai a dosbarthiadau coginio byw a rhaglen yn llawn gweithgareddau i’ch diddanu.

Yn ardal hyfryd gogledd-ddwyrain Cymru, mae Gŵyl Bwyd a Diod Llangollen yn ddiwrnod gwych i’r teulu gyda digon o weithgareddau i bawb eu mwynhau. Yn ei 21ain flwyddyn erbyn hyn, caiff ei adnabod fel digwyddiad cofiadwy a llawn hwyl.

Cafodd yr ŵyl ei sefydlu yn 1997, ac mae wedi dod yn un o’r gwyliau bwyd mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Ar y dechrau, roedd gŵyl Llangollen yn arddangos cynhyrchwyr bwyd traddodiadol o ogledd Cymru, ac i ychwanegu at ei llwyddiant, caiff cynhyrchwyr bellach eu denu yma o ardaloedd llawer ehangach.

Bu i’r ŵyl dyfu o un ‘stafell ym Mhafiliwn Llangollen, i lenwi’r holl adeilad. Mae yma ddathliad o amrywiaeth, gyda bwyd a diod sy’n draddodiadol i neu wedi’u dylanwadu gan wledydd eraill, sy’n rhoi teimlad rhyngwladol i’r ŵyl.

Ar ei phen-blwydd yn 20 oed, cafodd Gŵyl Bwyd a Diod Llangollen ei henwi yn un o’r 10 gŵyl bwyd a diod gorau ym Mhrydain gan bapurau newydd y Daily Telegraph a’r Independent.

Dosbarthiadau Meistr mewn Coginio

Caiff y dosbarthiadau meistr hyn mewn coginio, fydd heb os yn denu’r gynulleidfa, eu harwain gan Graham Tinsley MBE, sydd wedi paratoi prydau bwyd i’r Frenhines a Thywysog Charles ar o leiaf dwsin o achlysuron. Mae hefyd wedi bod yn gyfrifol am wleddoedd Dydd Gŵyl Dewi yn 10 Stryd Downing. Mae Graham hefyd yn arwain Cymdeithas Goginiol Gogledd Cymru.

Peidiwch â methu ei arddangosiadau, mae’n canolbwyntio ar gynhwysion lleol o safon er enghraifft cigoedd, hufen iâ, olew had rêp, mêl a chwrw, oll gan gynhyrchwyr lleol sy’n arddangoswyr rheolaidd yn yr ŵyl. Edrychwch ar raglen yr ŵyl ar gyfer amserlen yr holl arddangosiadau coginio (dolen gyswllt).

Mae Bryan Webb, o Dyddyn Llan, yn un o’r nifer fach o gogyddion yng Nghymru sydd wedi derbyn gwobr Michelin. Mae’n coginio gyda chynnyrch Cymreig yn ei fwyd clasurol sydd wedi’i ysbrydoli gan y Ffrancwyr. Mae Jack Hatley – o Gales of Llangollen yn un o’r sêr lleol, yn arddangos sut mae’n paratoi cynnyrch lleol gyda thechnegau modern.

Mae Stephen Griffith a Sam Elliott o Harlech Foods, sy’n creu syniadau newydd a diddorol i gogyddion ar draws Cymru, yn arddangos eu pryd cig eidion enwog. Bydd Dai Chef, sy’n dod i’r ŵyl yn rheolaidd, yn potsio pysgod mewn seidr Rosies, neu yn coginio cig eidion fferm Abbey mewn bara fflat, gan hyrwyddo bwyta’n iach.

Bu i Arron Tye ennill y gystadleuaeth Cogydd Ifanc Cymru yn 2018 ym Mhencampwriaeth Goginiol Ryngwladol Cymru a bydd yn yr ŵyl yn ymuno â Graham Tinsley gyda’r dosbarthiadau meistr. Mae Gareth Dwyer hefyd yn rhan o’r rhestr arbennig o gogyddion yn 2018.

Sesiynau Ymarferol

Mae’r sesiynau ymarferol hyn yn ffordd berffaith o ddysgu sgil benodol. Gall hyn fod yn sgiliau gyda chyllyll, sut mae gwneud sosejys neu fara, neu ddysgu am winoedd. Mae’r sesiynau hyn, sy’n edrych ar y sgiliau yn ddyfnach, wedi’u cynllunio o amgylch gwybodaeth ddofn am sgiliau coginio penodol, a does dim yn well na dysgu drwy roi cynnig ar y sgil eich hun. Mae sgiliau cyllyll yn sgiliau sylfaenol ym mhob cegin, gan ddechrau gyda sut mae dal cyllell, ac yna ymlaen i dorri ac i ddeisio. Bydd gwneud sosejys yn cael gwared ar eich ofnau o ran gwneud y llenwad, gan ddefnyddio casin naturiol a chreu’r dolenni sosejys. Mae sesiynau gwneud bara yn llafur cariad, lle cewch ddysgu am dylino, gorffwys a chodi.

Mae’r sesiynau ymarferol hyn yn ffordd ryngweithiol a hwyl o arbrofi gyda sgiliau newydd. Mae’r holl gogyddion yn gyfeillgar a byddan nhw’n siŵr o rannu’r holl gyfrinachau gyda chi.

Edrychwch ar wefan yr ŵyl yma i weld pryd caiff y gweithdai hyn eu cynnal.

Rhestr o Gerddorion

Mae’n rhaid cael cerddoriaeth fyw er mwyn ei gwneud yn ŵyl bwyd a diod dda. Bydd sesiynau gan Tom Wilson, Captain Zed, the Grasshoppers, the Glasswalkers, Chris Sims, Jamie Thomas, Charlie Jones Jazz Band, a Band Arian Llangollen.

Does dim yn well na gwrando ar gerddoriaeth wych tra’n mwynhau bwyd da, gyda gwydraid o’ch hoff ddiod yn eich llaw. Peidiwch â dal yn ôl rhag canu, clapio, bloeddio a dawnsio fel petai neb yn eich gwylio. Mae’r ŵyl hon er mwyn i bawb gael hwyl.

Arddangoswyr

Gallwch ddisgwyl llawer iawn o fwyd a diod arbennig, ond hefyd anrhegion, addurniadau cartref a gemwaith. Bydd dros 100 o wahanol arddangoswyr yn cynnig popeth o gigoedd organig i wirodydd â blas ffrwythau, caws Cymreig, bara, siocled, pysgod, Biltong, sglodion halloumi, tatws corwynt, hufen iâ, tacos, nachos, cig moch rhost a pheis – i enwi dim ond rhai o’r bwydydd stryd arbennig gallwch ddod o hyd iddyn nhw yma. O ran diodydd, cewch ddod o hyd i bopeth o gwrw crefft lleol, gin, medd a gwirodydd i winoedd ledled y byd. Bydd hefyd te dail wedi’u cymysgu â llaw yn Eryri.

Bydd gwahanol hufen iâ wedi’u gwneud yn lleol, yn ogystal â chyffug, siocled, pwdinau a chacennau Eidalaidd i’w bwyta yn y fan a’r lle neu i fynd adref gyda chi. I enwi dim ond rhai o’r arddangoswyr:

Aballu Artisan Chocolatier (dolen gyswllt i’r wefan) mae eu stondin gyda siocled blasus yn rhif H26

Pen-y-lan Stall (dolen gyswllt i’r wefan), prynwch eu sosejys porc cartref o’u stondin ar rif A51

Patchwork Paté (dolen gyswllt i’r wefan), paté cartref  yn H11

Authentic Thai (dolen gyswllt i’r wefan), bwyd i’ch cadw chi’n hapus yn S8

Llangollen Brewery (dolen gyswllt i’r wefan), cwrw wedi’u bragu yn lleol yn M1

Llanvalley Natural Products (dolen gyswllt i’r wefan), nwyddau cosmetig cartref arbennig yn H1

Rachels Vegan Cakes (dolen gyswllt i’r wefan), cacennau feganaidd hynod o arbennig yn B6

Sabor de Amor (dolen gyswllt i’r wefan), bydd un o’r rhai wnaeth gyrraedd rownd derfynol rhaglen ‘Top of the Shop’ BBC2 ar ei stondin yn H31

O ran nwyddau cosmetig a gemwaith, fe ddewch chi o hyd i gemwaith gwydr môr crefft tlws, modrwyau llwyau arian cain, a chynnyrch gofal croen naturiol.

Caiff mwy o gynhyrchwyr eu hychwanegu ar y wefan cyn y digwyddiad. Os ydych chi’n chwilio am gynhyrchwr penodol, neu fath o fwyd, edrychwch ar ein rhestr o arddangoswyr ar wefan yr ŵyl yma (dolen gyswllt)

Gallwch hefyd edrych ar dudalen Facebook yr ŵyl am unrhyw ddiweddariadau (dolen gyswllt)

Gwybodaeth bwysig

Mae Gŵyl Bwyd a Diod Llangollen yn dechrau am 10yb ac yn gorffen am 5yp ar y 13eg a’r 14eg o Hydref. Bydd llefydd parcio ym maes parcio’r Pafiliwn neu mewn meysydd parcio cyfagos.

Pris tocynnau ydy £5 y person.

Yn bwysicaf oll, mwynhewch eich hunain yng Ngŵyl Bwyd a Diod Llangollen, a nodwch y dyddiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf, sef y 19eg a’r 20fed o Hydref. Dilynwch yr ŵyl ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol am unrhyw newyddion a chynigion arbennig, a chofiwch edrych ar y wefan am unrhyw fanylion.